top of page

Mae’n siŵr eich bod chi’n ’nabod Chris yn sgil ei bresenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ac ei raglen ar S4C, Bwyd Epic Chris - ond mae ei berthynas â bwyd yn mynd yn ôl yn llawer pellach. Yn wir, dechreuodd ei obsesiwn â choginio yn ystod ei blentyndod; tra roedd ei fêts yn gwylio Teenage Mutant Ninja Turtles, roedd Chris yn brysur yn gwledda ar raglenni ei arwr, Keith Floyd.

CHWARAE

EFO TÂN

Cafodd Chris ei ysbrydoli gan nifer o gogyddion eraill dros y blynyddoedd hefyd, gan gynnwys ei dad. Heliwr-gasglwr oedd o, fyddai’n aml yn ymuno Èƒ’r Gauchos ar deithiau pysgota ym Mhatagonia. Byddai’r hen go’ yn dod adre' efo straeon anhygoel a phob math o anifeiliaid marw - gan greu argraff fawr ar ei fab. Mae Chris yn dal i gofio dod wyneb yn wyneb â llwyth o ffesantod marw yn hongian yn y garej un bore!

​

Ar ôl gorffen ei lefel A, cymerodd Chris flwyddyn allan i gystadlu yng nghystadleuaeth golffio'r European Long Drive Tour. Motto'r chwaraewyr? 'Eat every meal as if it's your last!' Cafodd flwyddyn wrth ei fodd yn teithio o gwmpas Ewrop - gan fyw a bwyta fel tasa 'na ddim 'fory!

Yn ddiweddarach yn ei ugeiniau, setlodd lawr yng Nghaernarfon a chael swydd llawn-amser yn gofalu am oedolion ag anableddau dysgu - ond mae'r angerdd a'r ysfa i goginio wedi parhau.

Pan bu farw ei dad, ciciodd Chris ei hun am beidio cadw cofnod o'i holl straeon anghygoel. Ond rai blynyddoedd yn ddiweddarach, tra'n gwylio pennod o Chef's Table, llifodd holl straeon de America yn ôl iddo. Wrth wrando ar Francis Mallman yn siarad am Asado - sut y mae'n fwy na ffordd o goginio yn unig: ei fod hefyd yn ffordd o fyw - cafodd Chris syniad.

 

Gyda'r nod o ddod â phobl at ei gilydd tra'n talu gwrogaeth i gynhwysion godidog gogledd Cymru, penderfynodd Chris lansio ei ŵyl fwyd ei hun: CHRISFEST. Penllanw'r ŵyl oedd carcasau'n rhostio'n braf ar groesau haearn yng nghanol tref Caernarfon. Daeth cannoedd o bobl i weld y bowlen dân a adeiladwyd gan Chris a'i ffrindiau, a dyna lle buon nhw, yn bwyta ac yn yfed a chreu miri nes i'r fflamiau olaf ddiffod.

 

Aeth y rhyngrwyd yn wyllt, a cafodd Chris fflyd arall o ddilynwyr - ac yn y pen draw arweiniodd hynny at ei sioe deledu ei hun. Mae Bwyd Epic Chris wedi bod yn llwyddiant ysgubol a does dim awgrym fod archwaeth Chris am fwydydd tanbaid ar fin dod i ben.  

​

Nesaf ar y fwydlen? Rhoi tân ym mol y byd i gyd!

bottom of page