top of page
chris roberts logo efo fflam gwyn-01.png
HOME
ABOUT
Pan ddaw hi at fwyd, mae gan Chris Roberts dân yn ei fol.
 
Mae gwreichion wedi bod yn britho'r awyr uwchben arfordir gogledd Cymru ers sbel erbyn hyn, diolch i'r lejand lleol Chris a'i wleddau poeth - stêcs secsi,  cimychiaid gwych, madarch gwyllt... mae wedi rhostio'r cyfan.
 
Mae meddylfryd coginio Chris yn weddol syml: Cadwch y rheolau'n relacsd, y blasau'n fawr a'r fflamau'n danbaid. 
FFLAMAU MAWR
BLASAU CRYF
EGNI LLEOL

PWY DI HWN? 

Videos
flame-01.png

TÂN YN EI FOL

Cerwch a'ch meddwl i dref yng Nghymru â chastell canol-oesol...

​

Ylwch! Wystrys yn byrlymu yn nŵr disglair y Fenai; copaon geirw a choedwigoedd epig Eryri; strydoedd coblog yn frith o siopau cebab ffiaidd o neis ac awel fwyn sy'n cario lleisiau'n cyndeidiau ('iawwwnnnn coooont...?'). Ia, dyma Gaernarfon - cartref Chris Roberts.  

​

Mae Chris wedi byw'n Dre ers 1985 ac mae ar ei orau pan yn ei filltir sgwâr ei hun. Mae'r dref yn rhan hanfodol o bob rhan o'i fywyd - mae'n gwneud gwaith yn y gymuned yn y dref a does dim yn well ganddo nag ymlacio efo'i gyd-Gofis neu fynd ar anturiaethau i sgowtio bwyd efo'i sidekick ffyddlon, Roxy'r ci. Ond yn fwy na dim, mae'r dref yn ysbrydoliaeth iddo, ac yn tanio ei ysfa am andros o wledd - un danbaid o boeth.

REVIEWS

IAWN?

CWESTIYNAU... SYLWADAU... AMDANI!

DIOLCH!

CONTACT

DWEUD Y GWIR!

Dwi'n ffan mawr o

Chris  - mae ei ethos yn eithaf tebyg i fy un i, ond mae'n dathlu o ble mae'n dod mewn ffordd gryfach o lawer.

 CERYS MATTHEWS 

Byddwn yn dilyn Chris a'i fwyd rownd

y byd i gyd!

He's been Asado Chris to me since I first tasted his truly heavenly lamb on a sunny day in Caernarfon Castle... it's the ultimate in grilling,

and so is he.

 LARRY LAMB 

 TOMOS PARRY 

PHOTOS
bottom of page